Y byd celfyddydol #1

img_9959

Tro ma on ni am son ‘chydig am be sy’n digwydd dydd i ddydd ond hefyd am y rhwystrau sy’n rhan o’r byd dawns neu’r byd celfyddydol yn gyffredinol, o’n perspectif i wrth gwrs, a neb aral so mae croeso i chi anghytuno.

Felly o rhan y dydd i ddydd mae’r amserlen yn eitha normal o ran colegau dawns, dechre am 8:30 efo Ballet, ond mae rhaid bod chi wedi cynhesu fyny cynt felly mae pobl yn cyrraedd tua tri chwarter awr yn gynt i gynhesu fyny a cal chinwag bach. Wedyn gan bod ni’n yn ail flwyddyn ni’n cael guest teacher felly mae athro/athrawes newydd yn dod am wythnos i ddysgu ei steil nhw o ddawns i ni, sy’n gyfle anhygoel gan bod ni’n cal gymaint o bobl gwahanol. Ar ôl hyna mae’r amserlen yn newid o ddydd i ddydd, galle ni fod yn cael Jazz, Body Awareness, Partnering, Improvisation a.y.y.b. Ond yn wahanol i llawer o lefydd eraill does bron dim gwaith ysgrifenedig. Yn ystod y flwyddyn gynta chi’n cal gwersi hanes dawns, ond ar ôl hyna does dim sgwennu o gwbl felly rydym yn lwcus iawn o ran hynny.

Peidiwch cal fi’n wrong mae prifysgol yn anodd a bydde fi ddim yn newid llefydd efo’n ffrindie i ond weithie wrth edrych ar’n ffrindie dwi yn mynd yn genfigenus o’i dydd gwener rhydd neu’r dydd mawrth sydd mond efo un darlith a bod nhw ddim yn gorfod codi tan 11. A mae fe’n ôd weithie meddwl am be fi’n neud pob dydd, fi’n hollol lwcus bod fi just yn gallu dawnsio trwy’r dydd ond mae ‘na bethe sy’n anodd amdano fe hefyd. Ni’n sefyll mewn stiwdio am oddeutu 8 awr y dydd yn cael cywiriadau trwy’r amser, hyd yn oed wrth ddawnsio galle’r athro fod yn gweiddi “shoulders down” “don’t look in the mirror” “point your feet” a chi’n gorfod computio hwn wrth i chi gofio’r cywiriadau o cynt a’r ymarfer’i hun heb anghofio dawnsio fe. Ac wrth sai di bod i brifysgol felly gallai ddim bod yn sicr bod hyn ddim yn digwydd f’yna ond fi bron yn siwr bod na ddim darlithydd yn edrych ar y nodiadau chi’n sgwennu a gweiddi “sgwenna fe’n well” “defnyddia’r fformiwla yma ddim yr un yna” neu rywbeth fel’na.

Ond fi’n credu y peth anodda’ am weithio yn y celfyddydau ydy mae barn yw popeth. Os chi’n neud gradd mewn mathemateg i rhyw raddau chi’n naill ai yn mynd i fod yn gywir neu’n anghywir, ond pan mae’n dod i ddawns neu drama neu gelf neu gerddoriaeth mae gymaint anoddach beirniadu rhywbeth heb ddod a’ch teimladau neu eich chwaeth chi’ch hunan fewn i’r feirniadaeth. Fel arfer pan chi’n trio am brifysgol mae fe’n dibynnu ar eich lefel A, ac i ryw raddau mae rhaid chi basio rhai arholiadau i fynd i ysgol ddawns, ysgol ddrama ond mae fe am eich clyweliad, am eich edrychiad a os mae nhw’n hoffi’r ffor chi’n symud/actio. Fi hefyd yn gwybod mewn ysgolion drama mae nhw’n meddwl am casting y sioe graddio wrth glyweld pobl felly os bod efo nhw gymraes, falle bod nhw ddim moyn un arall. Dyna faint mor harsh yw’r holl beth. Yn ogystal yn Iwanson mae arholiad diwedd blwyddyn a does dim guarantee i chi symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf sy’n golygu mwy o bwysau ond dyna’r byd ni’n dewis wrth fynd fewn.

Fi’n credu bod rhaid i chi fod yn gryf iawn yn feddyliol i allu mynd mewn i’r byd celfyddydol, a gallu credu’n eich hunan pan fydd neb arall yn, nes i ddwy flynedd o glyweliadau cyn cael mewn i unrhyw le a mae fe’n anodd, a’r peth anodda ‘oll allan o hyna ydy’r ffaith bod dim hyd yn oed guarantee o gael unrhyw waith ar ddiwedd y dair mlynedd. Mae gymaint o bobl yn gorfod mynd i neud rhywbeth arall achos bod nhw methu ennill digon o arian yn freelancio neu bod swydd arall i alluogi nhw i gario mlaen i ddawnsio, a fi’n credu mai dyna’r peth anoddaf

Wel just rhywbeth bach i chi feddwl am, gobeithio nathoch chi joio fe!


Leave a comment